Ulrich Zwingli

Diwygiwr crefyddol o'r Swistir oedd Ulrich Zwingli (hefyd Huldrych Zwingli neu Huldreich Zwingli yn Almaeneg ; Ulricus Zuinglius yn Lladin) (1 Ionawr 148411 Hydref 1531). Ef oedd arweinydd y Diwygiad Protestannaidd yn y Swistir a sefydlwr Eglwysi Diwygiedig y Swistir. Daeth Zwingli i gasgliadau diwinyddol tebyg i rai ei gyfoeswr Martin Luther, ond gyda rhai gwahaniaethau pwysig, trwy astudio'r Ysgrythurau Cristnogol o safbwynt ysgolhaig dyneiddol. Yn ogystal, roedd yn wladgarwr Swisaidd pybyr.

Ganed Zwingli yn Wildhaus yng nghanton St. Gallen ar ddechrau 1484. Astudiodd yn Bern, Fienna a Basel a daeth yn offeiriad yn Glarus yn 1506. Treuliodd ddau gyfnod fel caplan i filwyr hur Glarus yn y rhyfel yn yr Eidal (1513, 1515). Dychwelodd i'r Swistir lle cafodd bywiolaeth yn Einsiedeln. Roedd y dref yn enwog fel cyrchfan pererindod i weld y Forwyn Ddu (delw o'r Forwyn Fair) a daeth Zwingli i ddirmygu'r "ofergoeledd" hynny.

Symudodd i ddinas Zürich lle cafodd ei ethol yn bregethwr yn eglwys y Grossmünster. Yn ogystal â phregethu'r Efengyl, llwyddodd i berswadio gwŷr Zurich i beidio cymryd rhan yng nghynghrair y cantonau eraill gyda Ffrainc. Yn 1523 mabwysiadodd cyngor Zürich 67 Pwynt Zwingli; carreg filltir yn hanes y Diwygiad yn y Swistir ac Ewrop gyfan. Dros y blynyddoedd nesaf gwnaeth sawl diwygiad yn cynnwys hebgor y sagrafen.

Yn 1529 bu yng nghynhadledd Marburg ac anghytunodd â Luther ynghylch natur y sagrafen. Arweiniodd hyn yn nes ymlaen at rwyg sylfaenol yn yr eglwysi Protestannaidd. Ond roedd cantonau eraill yn y Swistir, Cantonau'r Goedwig, yn elyniaethus tuag at Zwingli a Zürich a ffurfwyd cynghrair yn eu herbyn. Datganodd Zürich ryfel yn 1529 ar ôl i un o bregethwyr y ddinas gael ei losgi'n fyw ar ôl cael ei ddal ar dir niwtral. Yn Hydref 1531 ymosododd Cantonau'r Goedwig ar Zürich yn ddirybudd. Trechwyd gwŷr Zürich a lladdwyd Zwingli ei hun yn y frwydr i amddiffyn y ddinas.

Cyfeirir at ei ddysgeidiaeth fel Zwinglïaeth ('Zwinglïaidd' yw'r gair olaf a restrir yng ''Ngeiriadur Prifysgol Cymru''). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 124 ar gyfer chwilio 'Zwingli, Ulrich, 1484-1531', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1525
    Zürich : Chr. Foschouer, 1525.
    [97] p.
  2. 2
  3. 3
    [Zürich : n.d.]
    [52] p.
  4. 4
  5. 5
  6. 6
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1539
    [Ohne Druckort, ohne Drucker] 1539.
    130 p.
  7. 7
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1525
    [Ohne Druckort, ohne Drucker] 1525.
    44 p.
  8. 8
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1526
    Zürich : Froschauer, Christoph, d.Ä., 1526.
    [56] p.
  9. 9
  10. 10
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1525
    Zürich : Froschauer, Christoph, d.Ä. [1525]
    [88] p.
  11. 11
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1527
    Zürich : Froschauer, Christoph, d.Ä., 1527.
    [32] p.
  12. 12
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1527
    Nürnberg, Petrus, Johann, 1527.
    [80] p.
  13. 13
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1526
    Zürich : Froschauer, Christoph, d.Ä. [1526?]
    [48] p.
  14. 14
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1525
    Zürich : Froschauer, Christoph, d.Ä., 1525.
    [96] p.
  15. 15
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1525
    Zürich : Chr. Froschouer, 1525.
    [47] p.
  16. 16
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1524
    Zürich : Hans Hager 1524 [?]
    [8] p.
  17. 17
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1526
    Zürich : Hans Hager, 1526.
    [80] p. 4to.
  18. 18
    gan Zwingli, Ulrich, 1484-1531
    Cyhoeddwyd 1524
    Zürich : Hans Hager, 1524.
    [8] p.
  19. 19
  20. 20

Offerynnau Chwilio: