Rodolfo Usigli

Dramodydd Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Rodolfo Usigli (17 Tachwedd 190518 Mehefin 1979).

Ganwyd yn Ninas Mecsico yn fab i Eidalwr a Phwyles. Bu farw ei dad pan oedd Rodolfo yn fachgen, a fe gafodd ei fagu gan ei fam yn ystod cyfnod Chwyldro Mecsico (1910–20). Dioddefodd o nam ar ei olwg, a na lwyddodd i orffen ei addysg yn yr ysgol uwchradd.

Er gwaethaf caledni ei fagwraeth, erbyn y 1940au mi oedd Usigli yn un o'r arloeswyr blaenaf ym myd theatr Mecsico. Mae ei ddramâu ''El gesticulador'' (ysgr. 1937, perff. 1947) a ''Corona de sombra'' (ysgr. 1943, perff. 1947) yn nodweddiadol o'i ymdrechion i foderneiddio'r theatr genedlaethol ac i fynegi hunaniaeth Fecsicanaidd yn seiliedig ar hanes a symbolau diwylliannol y wlad.

Yn ogystal â'i ddramâu, ysgrifennodd Usigli nofel dditectif seicolegol o'r enw ''Ensayo de un crimen'' (1944), a gafodd ei haddasu'n ffilm gan Luis Buñuel yn 1955. Gweithiodd hefyd yn hanesydd llenyddol, academydd, a diplomydd. Bu farw yn Ninas Mecsico yn 73 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Usigli, Rodolfo, 1905-', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Usigli, Rodolfo, 1905-
    Cyhoeddwyd 1965
    México : Fondo de Cultura Económica, 1965.
    225 p.
  2. 2
    gan Usigli, Rodolfo, 1905-
    Cyhoeddwyd 1960
    México : Cuadernos americanos, 1960.
    134 p.
  3. 3
    gan Usigli, Rodolfo, 1905-
    Cyhoeddwyd 1963
    México : Fondo de Cultura Económica, 1963-1966.
    2 v. ; 21 cm.
  4. 4
    gan Usigli, Rodolfo, 1905-
    Cyhoeddwyd 1972
    México : Editorial J. Mortiz, 1972.
    148 p. ; 18 cm.

Offerynnau Chwilio: