Frantz Fanon
Seiciatrydd, athronydd, chwyldroadwr, a llenor o Martinique oedd Frantz Omar Fanon (20 Gorffennaf 1925 – 6 Rhagfyr 1961). Roedd yn ddylanwadol mewn astudiaethau ôl-drefedigaethol. Ysgrifennodd y llyfrau ''Peau noire, masques blancs'' (1952) a Les ''Damnés de la terre'' (1961).Ganwyd yn Fort-de-France, prifddinas Martinique, a mynychodd ysgolion ar yr ynys honno ac yn Ffrainc. Gwasanaethodd ym Myddin Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel astudiodd meddygaeth a seiciatreg ym Mhrifysgol Lyon. Roedd yn bennaeth adran seiciatreg Ysbyty Blida-Joinville, Algeria, o 1953 hyd 1956. Ymunodd â'r mudiad gwrth-drefedigaethol yn Algeria ym 1954 ac ym 1956 daeth yn olygydd y papur newydd ''El Moudjahid'' a gyhoeddwyd yn Nhiwnis. Penodwyd yn llysgennad Algeria i Ghana ym 1960 gan y Llywodraeth Dros Dro. Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan Fanon, Frantz, 1925-1961### CRL customization ### ?> ### Add publisher and desc details ### ?>
Cyhoeddwyd 1967New York, Monthly Review Press [1967]x, 197 p. 23 cm. -
2gan Fanon, Frantz, 1925-1961### CRL customization ### ?> ### Add publisher and desc details ### ?>
Cyhoeddwyd 1962Warszawa : Iskry, 1962.177, [3] p., [8] p. of plates : ill. ; 20 cm.