Johannes Brahms
Roedd Johannes Brahms (7 Mai 1833 - 3 Ebrill 1897) yn gyfansoddwr, pianydd ac arweinydd cerddoriath Almaenaidd yn y cyfnod Rhamantaidd. Fe'i ganed yn Hamburg i deulu Lutheraidd, a threuliodd lawer o'i fywyd proffesiynol yn Fienna. Weithiau caiff ei grwpio gyda Johann Sebastian Bach a Ludwig van Beethoven fel un o "Dri B" cerddoriaeth, sylw a wnaed yn wreiddiol gan yr arweinydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg Hans von Bülow .Cyfansoddodd Brahms gweithiau ar gyfer y gerddorfa symffoni, yr ensemble siambr, y piano, yr organ, y llais a'r corws. Yn bianydd meistrolgar, perfformiwyd nifer o'i weithiau am y tro cyntaf ganddo ef ei hun. Gweithiodd gyda pherfformwyr blaenllaw ei gyfnod, gan gynnwys y pianydd Clara Schumann a'r feiolinydd Joseph Joachim (roedd y tri yn ffrindiau agos). Mae llawer o'i weithiau wedi dod yn rhan o brif arlwy'r repertoire cyngerdd modern.
Roedd Brahms yn cael ei ystyried yn draddodiadwr ac yn arloeswr, gan ei gyfoeswyr a chan awduron diweddarach. Mae ei gerddoriaeth wedi'i wreiddio yn strwythurau a thechnegau cyfansoddiadol y meistri Clasurol. Er bod rhai o'i gyfoeswyr o'r farn bod ei gerddoriaeth yn rhy academaidd, roedd ffigurau dilynol megis Arnold Schoenberg ac Edward Elgar yn edmygu ei gyfraniad a'i grefftwaith. Roedd natur ddiwyd, hynod adeiladol gweithiau Brahms yn fan cychwyn ac yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth o gyfansoddwyr. Mae motiffau rhamantus dwfn wedi'u hymgorffori yn y strwythurau hynny. Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan Brahms, Johannes, 1833-1897### CRL customization ### ?> ### Add publisher and desc details ### ?>
Cyhoeddwyd 1895Berlin : N. Simrock, c1895.1 score (30 p.) + 1 part ; 36 cm. -
2gan Brahms, Johannes, 1833-1897### CRL customization ### ?> ### Add publisher and desc details ### ?>
Cyhoeddwyd 1969[1969]268 p. -
3gan Brahms, Johannes, 1833-1897### CRL customization ### ?> ### Add publisher and desc details ### ?>
Cyhoeddwyd 19211921.[1] p. -
4### CRL customization ### ?> ### Add publisher and desc details ### ?>Royal College of Music, 2011.
-
5gan Brahms, Johannes 1833-1897, Boettcher, Wolfgang 30.01.1935-, Kraus, Detlef 1919-### CRL customization ### ?> ### Add publisher and desc details ### ?>
Cyhoeddwyd 1978Wien Wiener Urtext-Ed. 1978.Budapest Editio Musica/ZeneműkiadóIX, 35 S. 4 1 St. -
6Cyhoeddwyd 1968### CRL customization ### ?> ### Add publisher and desc details ### ?>Northampton, Mass. : Smith College, c1968.1 vocal score (ix, 60 p.) : facsim. ; 29 cm.Awduron Eraill: “...Brahms, Johannes, 1833-1897...”